CYPE(5)-13-18 – Papur 1

http://www.cbac.co.uk/application/themes/WjecCbac/img/cbac-logo.png

 

 

 

Darparu Adnoddau Addysgol i Gefnogi Cymwysterau

 

Darperir y papur hwn ar gyfer trafodaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 2 Mai 2018

 

 

1.  Locws bwrdd arholi o ran perthynas gyda chyhoeddwyr gwerslyfrau

 

Nid yw CBAC yn gyhoeddwr gwerslyfrau ond rydym yn ceisio meithrin diddordeb cyhoeddwyr er mwyn sicrhau bod gwerslyfrau addas ar gael i gefnogi ein cymwysterau.

 

Pan fo cyhoeddwr yn dangos diddordeb, mae ein perthynas gyda’r cyhoeddwr hwnnw yn seiliedig ar ganllawiau sydd â’u tarddiad yn y maes rheoleiddiol. Felly, yn hytrach na pherthynas gytundebol fasnachol, proses o “gymeradwyo” sydd yn ei lle.

 

O fewn y broses gymeradwyo honno, bydd CBAC a’r cyhoeddwr wedi cytuno ar amserlen ar gyfer darllen amlinelliad o'r deunydd ac ar gyfer darllen yr ail broflen gan gynnwys yr holl ddiagramau/mynegeion ac ati. Nid yw hyn yn gyfystyr â chael cytundeb manwl yn ei le rhwng CBAC a’r cyhoeddwr ar gyfer yr holl broses awduro a chynhyrchu ac felly pe byddai’r cyhoeddwr yn cael trafferth o ran cadw at yr amserlen nid oes gan CBAC bwerau cytundebol i ymyrryd. 

 

Er mai hon yw’r drefn bresennol, gan fod ei tharddiad yn y gyfundrefn rheoleiddiol ar gyfer “cymwysterau tair gwlad” nid yw’n angenrheidiol mai hon yw’r drefniadaeth orau yng nghyd-destun darparu adnoddau mewn dwy iaith yng nghyd-destun datblygiadau cwricwlwm a chymwysterau sy’n benodol i Gymru.

 

Yn ychwanegol i hyn, ar gyfer fersiynau Cymraeg y gwerslyfrau, mae CBAC yn darparu gwasanaeth sy’n cefnogi cyhoeddwr yn y broses o ddarparu’r cyfrolau hynny (yn benodol drwy ddarparu gwasanaeth golygyddol llawn a threfnu’r broses gyfieithu). Rydym yn derbyn cefnogaeth gyllidol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr agwedd hon o’n gwaith.

 

 

2. Amrediad yr adnoddau addysgol y mae CBAC yn ei ddarparu

 

Er nad ydym yn gyhoeddwr, mae cenhadaeth CBAC yn cynnwys “cynhyrchu adnoddau a chyfleoedd datblygu o safon i fodloni gofynion gydol oes dysgwyr o bob gallu a'u hathrawon”. Er mwyn gwneud hyn yn effeithlon, ac er mwyn cefnogi’r defnydd cynyddol o gyfryngau digidol at bwrpas dysgu ac addysgu, rhoddwn ein pwyslais ar ddarparu amrediad eang o adnoddau digidol sydd ar gael yn rhad ac am ddim trwy wefan gyhoeddus CBAC.

 

Ar gyfer cymhwyster penodol, y fanyleb a’r deunyddiau asesu enghreifftiol yw’r cyfan sydd angen ei ddarparu at bwrpasau rheoleiddiol. Ond mae ein darpariaeth adnoddau dysgu digidol yn llawer ehangach na hynny, gan gynnwys “Canllaw Addysgu” cynhwysfawr a hefyd amrediad o adnoddau unigol, yn arbennig ar gyfer y rhannau o’r fanyleb sy’n newydd.

 

 

3. Tarddiad a natur y problemau o ran TAG Addysg Grefyddol

 

Yn gyffredinol, y ffactor pennaf sy’n creu rhwystr i gyhoeddwyr o ran eu hamserlen ar gyfer gyrru ymlaen gyda’u gwaith yw’r amserlen reoleiddiol ar gyfer cymeradwyo cymwysterau, yn benodol faint o amser sydd ar gael cyn y dyddiad pryd y dechreuir dysgu. Mae hyn wedi bod yn faen tramgwydd ar gyfer nifer o bynciau o fewn yr amserlen diwygio a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod rhan olaf y cyfnod pan oedd yn rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru (ac roedd yr amserlen honno yn debyg iawn i’r un ar gyfer diwygio cymwysterau yn Lloegr).

 

Fodd bynnag, o ran gwerslyfrau TGAU a Safon Uwch ar gyfer Astudiaethau Crefyddol, mae’n ymddangos bod ffactorau ychwanegol wedi cael effaith ar y ddau gyhoeddwr oedd yn gwneud y gwaith hwn.

 

Un o’r prif broblemau yw’r ddibyniaeth ar nifer fechan o awduron, i’r fath rai mai’r un awduron oedd yn arwain ar yr adnoddau ar gyfer yr unedau Uwch Gyfrannol (blwyddyn 12) yn ogystal â’r unedau A2 (blwyddyn 13). Roedd y gwaith ar unedau Uwch Gyfrannol yn hwyr yn dechrau oherwydd yr amserlen achredu, ac roedd angen cwblhau’r rheiny cyn gallu dechrau ar y gwaith ar unedau A2. Yn ddelfrydol, dylid caniatáu 18-24 mis ar gyfer proses gynhyrchu adnoddau printiedig o safon, yn arbennig pan fo newid sylfaenol mewn manyleb fel na ellir rhoi dibynniaeth ar addasu deunyddiau blaenorol.

 

 

4. Ehangder yr hyn rydym wedi ei ddarparu yn ddigidol ar gyfer TAG Addysg
    Grefyddol

 

Mae TAG Addysg Grefyddol hefyd yn digwydd bod yn un o’r pynciau hynny lle rydym wedi buddsoddi fwyaf mewn adnoddau digidol.

 

Mae’r Canllaw Addysgu (153 tudalen) ei hun ymhlith y mwyaf sylweddol yr ydym erioed wedi ei gynhyrchu, gan fanylu’n sylweddol ar y gofynion.  Darperir dwy enghraifft o hynny yn Atodiad 1 i’r papur hwn. Mae’r Canllaw hefyd yn darparu rhestrau o lyfrau cyfeirio a gwefannau defnyddiol fesul thema.

 

Gan fod y cyhoeddwr gwerslyfrau wedi llunio ei gynllun ar sail unedau’r cwrs, mae rhai unedau gyda cyn lleied o ymgeiswyr fel nad yw darparu gwerslyfr yn hyfyw. Yn yr achosion hynny, mae’r ddarpariaeth ddigidol yn gwbl hanfodol.

 

I gyd-fynd â’r Canllaw Addysgu, rydym hefyd yn darparu Geirfa Allweddol (36 tudalen) sy’n manylu’n sylweddol ar dermau llai cyfarwydd, fel yr enghreiffir yn Atodiad 2.

 

O ran yr adnoddau digidol unigol ar gyfer TAG Addysg Grefyddol, mae unedau sylweddol ar gyfer Bwdhaeth, Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam a Sikhiaeth, Crefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd a hefyd unedau ar y themâu penodol canlynol: Sythwelediaeth, Emosiynaeth, Naturoliaeth, Iwtilitariaeth, Moeseg Sefyllfa, Deddf naturiol Aquinas, Deddf gorchymyn dwyfol, Myfiaeth foesegol, Damcaniaeth rhinwedd, Dadleuon am fodolaeth Duw, Profiad crefyddol, Problem drygioni a dioddefaint. Dylid pwysleisio bod pob un o’r rhain yn fwy nag adnodd unigol ond yn gasgliad o adnoddau perthnasol ar gyfer y thema.

 

Rydym hefyd yn rhoi pwyslais o fewn ein deunyddiau ar Amcan Asesu 2 (dadansoddi a gwerthuso) sy’n ddwy draean o’r pwysoliad ar lefel A2 (blwyddyn 13) o fewn y fanyleb ddiwygiedig. Nid yw’r math hwn o bwyslais ar yr Amcan Asesu hwn i’w gael fel arfer mewn gwerslyfrau (sy’n tueddu i ganolbwyntio ar gynnwys) ac rydym felly hefyd wedi darparu deunydd canllaw ar gyfer ymatebion i Amcanion Asesu 1 a 2.


 

5. Edrych ymlaen

 

Wrth edrych ymlaen at gyfnod lle bydd angen darpariaeth adnoddau sy’n gynyddol benodol ar gyfer anghenion Cymru, rydym trwy drafodaeth gyda rhanddeiliad eraill wedi adnabod dau ddarn o waith y byddai’n fanteisiol mynd yn eu cylch, sef (i) meithrin diddordeb gweisg yng Nghymru a (ii) ymchwilio i’r deunydd gwirioneddol o adnoddau (ar draws sbectrwm sy’n ymestyn o’r digidol rhyngweithiol a’r gwerslyfrau).

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod yn gallu rhoi ystyriaeth i ddarparu elfen of gefnogaeth ariannol ar gyfer y ddau fwriad hwn, ac felly mae’r camau canlynol ar waith:

 

(i)            Rydym wedi amlinellu rhaglen ar gyfer seminarau trafod gyda’r gweisg, sef

·         y galw: cefndir a natur y datblygiadau nesaf o ran cwricwlwm a chymwysterau, y galw am adnoddau addysgol, amrediad cyfrwng (o ddigidol i brint), lle rydyn ni o ran terminoleg a chywair iaith ar gyfer gwahanol oedrannau, ….

·         heriau ymateb i’r galw– heriau awduro, cynhyrchu yn y ddwy iaith yn gyfochrog, defnydd o dechnoleg cyfieithu, meithrin sgiliau a sefydlogi capasiti, delio gyda hawlfraint, plethiad rhwng print a digidol, …….

·         modelau busnes – posibiliadau o ran natur y cymorth grant, natur cytundebau, dosbarthiad gwaith dros gyfnod o amser, cefnogaeth gan CBAC, cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau, ……

(ii)           Rydym wedi gwahodd tendrau ar gyfer gwaith ymchwil (dyddiad cau 24 Ebrill), gyda’r bwriad o ganfod pa ddefnydd a wneir o adnoddau a ddarparwyd i gefnogi addysgu a dysgu yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5. Rydym yn dymuno deall y defnydd cyfredol o adnoddau er mwyn gallu cynllunio'n bwrpasol at y dyfodol gan ystyried arddull, argaeledd, cydbwysedd print/digidol, hyblygrwydd, ac ati. Yn benodol, mae angen ymchwilio:

·         y defnydd a wneir o wahanol fathau o adnoddau ar lawr dosbarth a thu hwnt

·         y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddefnydd yr adnoddau, e.e. addasrwydd at bwrpas, y cynnwys, ieithwedd, arddull, y cyfrwng (digidol/print), cost

      Bydd yr ymchwil yn cynnwys adnoddau addysgiadol cyfrwng Cymraeg a
      chyfrwng Saesneg.

 

 

 

 

Gareth Pierce

Prif Weithredwr, CBAC

 

Ebrill 2018


 

Atodiad 1

 

 

Enghreifftiau o’r ddogfen “Canllaw Addysgol”

 

 

Thema 1: Llenyddiaeth y Testament Newydd - Damhegion

Mae’r thema hon yn rhoi cyflwyniad i ddamhegion efengylau’r Testament Newydd. Bydd ymgeiswyr yn astudio tair dameg (dameg y mab afradlon, dameg y wledd fawr a dameg yr heuwr) yn fanwl.

 

1A. Damhegion mathau a nodweddion

 

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar fathau a nodweddion damhegion y Testament Newydd.

Cydnabyddir bod gwahanol ysgolheigion wedi dosbarthu damhegion mewn ffyrdd gwahanol. Disgwylir i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â dosbarthiad John Dominic Crossan o’r pedwar prif fath o ddamhegion (damhegion ar ffurf posau, damhegion enghreifftiol, damhegion ymosodol a damhegion heriol). Mae’r pedwar math yn cael eu hesbonio yn ei lyfr The Power of Parable: How fiction by Jesus became fiction about Jesus. Disgwylir i ymgeiswyr gymhwyso’r dosbarthiad hwn i’r tair dameg osod. Gall ymgeiswyr gyfeirio at ddamhegion eraill yn y Testament Newydd os dymunant, ond nid yw’r fanyleb yn gofyn am hyn. Bydd disgwyl i ymgeiswyr nodir prif nodweddion llenyddol damhegion y Testament Newydd hefyd a rhoi enghreifftiau o’r testunau gosod.

 

1B. Damhegion pwrpas a dehongliadau

 

Mae Adran B yn cyflwyno prif bwrpas a dehongliadau damhegion y Testament Newydd, gan gymhwyso’r astudiaethau hyn i’r tair dameg osod. Disgwylir i ymgeiswyr fod yn ymwybodol o gyfraniad Robert H. Stein i’r maes hwn (An Introduction to the Parables of Jesus). Mae dealltwriaeth bwysig o bwrpas damhegion ym Marc 4:10-12 a disgwylir i ymgeiswyr allu cyfeirio at hyn. Dylai ymgeiswyr ddeall dulliau dehongli yn cynnwys i ba raddau y dylid ystyried damhegion fel alegorïau. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â’r syniad fod ystyr damhegion wedi newid o’r hyn a fwriadwyd gan Iesu’n wreiddiol pan adroddodd y ddameg wrth ei wrandawyr yn y ganrif gyntaf, drwy newidiadau yn y cyfnod llafar, i’r dehongliad a roddodd awduron yr efengylau i’r damhegion. Yn ogystal, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn iaith grefyddol yn athroniaeth crefydd sydd wedi dylanwadu ar, ac wedi’u dylanwadu gan astudiaeth o ddamhegion.

 

1C. Astudiaeth agos o destunau’r Testament Newydd (damhegion)

Mae’r adran hon yn gofyn i ymgeiswyr ystyried agweddau ar y damhegion gosod, yn cynnwys eu tarddiad hanesyddol (e.e. i ba raddau mae’r damhegion yn rhai gwreiddiol o eiddo Iesu ac yn adlewyrchu bywyd ac arferion Palestina yn y ganrif gyntaf); eu strwythur (e.e. ffurf y ddameg a’i nodweddion allweddol); a negeseuon diwinyddol posibl y damhegion (e.e. beth maent yn ei ddysgu am Deyrnas Dduw).

 

Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried yn ofalus y materion ar gyfer dadansoddi a gwerthuso sy’n deillio o gynnwys AA1, yn cynnwys y rhai a restrir yn rhes olaf pob tudalen yn y fanyleb hon.

 

 

 

 


Uned 3 Bwdhaeth Thema 2

2A. Datblygiad hanesyddol Bwdhaeth yn Japan

 

Dylai ymgeiswyr allu dangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o: ddatblygiad traddodiadau Bwdhaidd allweddol yn Japan - Zen, y Wlad Bur a Nichiren - gan gyfeirio’n arbennig at eu harferion canolog.

Datganiad paradocsaidd yw’r koan a ddefnyddir mewn traddodiadau Zen i wneud i’r meddwl anwybyddu rhesymeg a neidio i ddealltwriaeth reddfol o realiti. Mae’r nembutsu (mynd am noddfa at y Bwdha Amida/Amitabha) mewn traddodiadau’r Wlad Bur yn fynegiant o ddiolch i Amida am ddarparu’r amodau ar gyfer goleuedigaeth ar ôl marwolaeth yn y Wlad Bur, gan na ellir sicrhau goleuedigaeth (yn wahanol i gred Zen) drwy hunan-bŵer. Mantra yw’r daimoku a ddefnyddir mewn traddodiadau Nichiren sy’n mynegi mynd am noddfa yn enw’r Sutra Lotws, sutra canolog Bwdhaeth Nichiren.

 

2B. Ymatebion i heriau o du gwyddoniaeth

 

Bydd ymgeiswyr yn edrych ar gyflwyniadau o Fwdhaeth fel crefydd sy’n osgoi ‘ffydd ddall’ ac sy’n pwysleisio gwireddu gwirionedd trwy brofiad (gan gyfeirio at y Kalama Sutta a.9 a 10 http://www.accesstoinsight.org/tipitaka/ân/an03/an03.065.soma.html cyfieithiad Thera Soma).

Byddant yn cymharu’r rhain â safbwyntiau byd-eang Bwdhyddion Asia sy’n cynnwys amrywiol fodau a theyrnasau (er enghraifft, chwe theyrnas neu ailenedigaeth, cred boblogaidd mewn ysbrydion ac ysbrydion newynog (pretas). O’i hystyried yn ei chyfanrwydd mae Bwdhaeth yn cynnwys dysgeidiaeth sy’n ymddangos fel petai’n pwysleisio rhesymeg, ac yn cynnwys dysgeidiaeth am aml-fydysawdau wedi’u poblogi gan fodau ysbrydol amrywiol â phwerau goruwchnaturiol. Bydd ymgeiswyr yn edrych hefyd ar asesiad cadarnhaol y Dalai Lama o werth gwyddoniaeth, a welir wrth iddo sefydlu’r Mind and Life Institute https://www.mindandlife.org/.

2C. Ymatebion i heriau yn sgil seciwlareiddio

 

Dylai ymgeiswyr edrych ar y ffordd y caiff Bwdhaeth ei phortreadu yn aml yn y Gorllewin fel athroniaeth seciwlar, gan gyfeirio at Stephen Batchelor (Atheist Bwdhaidd) a’r modd y mae’n portreadu Bwdhaeth fel athroniaeth resymegol ac fel ffordd o fyw. Dylent ystyried i ba raddau mae syniadau Batchelor am Fwdhaeth yn llurguniad i apelio at safbwynt Gorllewinol o’r byd. Gallant gyfeirio at y testunau canlynol mewn termau cyffredinol: Batchelor, S. (1998). Buddhism Without Beliefs: A Contemporary Guide to Awakening (Riverhead Books), Batchelor, S. (2011) Confession of a Buddhist Atheist (Spiegel & Grau), Batchelor, S. (2015) After Buddhism: Rethinking the Dharma for a Secular Age (Yale University Press). Dylai ymgeiswyr ystyried portread Batchelor o Fwdhaeth mewn ffordd feirniadol. Er mwyn cymharu gallent ystyried agwedd athro arall o’r Gorllewin, David Brazier, sy’n honni bod Bwdhaeth yn grefydd. Brazier, D. (2014). Buddhism is a Religion: You Can Believe It (Woodsmoke Press).

 

 


 

Atodiad 2

 

Enghreifftiau o’r ddogfen “Geirfa Allweddol”

 

 

Dalai Lama

Arweinydd ysbrydol a gwleidyddol pobl Tibet, sydd wedi'i alltudio. Mae'r Dalai Lama yn 'tulku' (gwarchodwr llinach benodol) traddodiad Gelug Bwdhaeth Tibet; ystyrir ei fod yn ymrithiad o Avalokitesvara Bodhisattva.

Y Dalai Lama presennol, Tenzin Gyatso, yw'r pedwerydd ar ddeg. Ystyr 'Dalai' yw moroedd o ddoethineb, ac ystyr 'lama' yw athro.

Doethineb

Sansgrit prajna. Un o'r ddwy nodwedd sy'n gysylltiedig â goleuedigaeth. Tosturi yw'r llall.

 

dulliau medrus

Yn Sangrit upaya kausalya. Mae dulliau medrus yn un o themâu'r Sutra Lotus. Mae'n cyfeirio at allu bodau goleuedig i ddefnyddio pa bynnag adnoddau sydd ar gael i helpu pobl ar y llwybr tuag at oleuedigaeth. Disgrifir y dysgeidiaethau fel 'dulliau medrus' h.y. nid 'Y Gwirionedd' ynddyn nhw eu hunain, ond technegau ar gyfer cyflawni diben. Dim ond bysedd yn pwyntio at y lleuad ydynt.

Ekayana (Skt)

Yn llythrennol, 'un ffordd'. Un o themâu'r Sutra Lotus sy'n hyrwyddo llwybr bodhisattva at oleuedigaeth.

gohonzon

'Gwrthrych i'w addoli': arysgrif o'r daimoku.

goleuedigaeth i bawb

Un o'r egwyddorion sy'n cael ei hegluro yn y Sutra Lotus ac sy'n cael ei chydnabod mewn sawl math o Fwdhaeth Mahayana, sef nad oes unrhyw ragofynion mynachaidd ar gyfer cyrraedd goleuedigaeth.

goruwchnaturiol

Gwyro o'r hyn sy'n arferol, gan ymddangos fel petai'n mynd uwchlaw

cyfreithiau natur.

Y Gymdeithas Fwdhaidd

Sefydlwyd y gymdeithas yn 1924 gan Christmas Humphreys; elusen yw hi a sefydlwyd yn y DU er mwyn cyhoeddi ac egluro egwyddorion Bwdhaeth.

Hanh, Thich Nhat

Athro myfyrio a gweithredwr dros heddwch o Viet Nam a aned yn 1926; mae'n awdur sawl llyfr ac yn byw mewn cymuned o'r enw Plum Village yn Ffrainc. Sefydlodd Urdd Rhyng-fodolaeth, sy'n addysgu meddylgarwch a Bwdhaeth Ymgysylltiol.

Jodo Shinshu

Sefydlwyd Jodo Shinshu yn y 13eg ganrif gan y mynach Japaneaidd Shinran. Mae'n ffurf ar Fwdhaeth y Wlad Bur sy'n datgan bod dynoliaeth yn byw yn oes mappo, sef oes lle y mae hi bellach yn amhosibl cyrraedd goleuedigaeth gan fod bodau dynol yn rhy lwgr a balch. Caiff y rheini sy'n anobeithio o ran eu gallu i'w gyrraedd, ac sy'n galw ar Bwdha Amida drwy arfer a elwir yn nembutsu, eu haileni yn y Wlad Bur.

Kalama Sutta

Testun Pali pwysig lle mae'r Bwdha yn ymbil ar ei ddilynwyr i beidio â derbyn dysgeidiaethau fel gwirionedd yn seiliedig ar unrhyw awdurdod ac eithrio eu profiad eu hunain bod y dysgeidiaethau wedi arwain at ryddid rhag dioddefaint.

Kathina (P)

Seremoni ar ddiwedd Encil y Glaw, lle y mae mentyll newydd yn cael eu cyflwyno i'r mynachod.

koan

Datganiad paradocsaidd neu gwestiwn dryslyd a ddefnyddir gan athro Zen i annog ei ddisgyblion i roi'r gorau i feddwl mewn ffordd gyffredin, ddeuolaidd, wahaniaethol.